Daniel Morgan

Daniel Morgan
Ganwyd6 Gorffennaf 1736 Edit this on Wikidata
Hunterdon County Edit this on Wikidata
Bu farw6 Gorffennaf 1802 Edit this on Wikidata
Winchester Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Galwedigaethgwleidydd, swyddog milwrol Edit this on Wikidata
SwyddCynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Member of the United States House of Representatives from Virginia Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolY Blaid Ffederal Edit this on Wikidata
PerthnasauPresley Neville Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Aur y Gyngres Edit this on Wikidata

Arloeswr, milwr, a gwleidydd Americanaidd o Virginia oedd Daniel Morgan (6 Gorffennaf 17366 Gorffennaf 1802). Un o dactegwyr maes brwydr mwyaf dawnus Rhyfel Annibyniaeth America (1775–1783) a fu. Yn ddiweddarach bu’n bennaeth ar filwyr yn ystod ataliad y Gwrthryfel Wisgi (1791–1794).

Cymro o dras, yn enedigol o New Jersey, ymgartrefodd Morgan yn Winchester, Virginia. Daeth yn swyddog ym milisia Virginia a recriwtiodd gwmni o filwyr ar ddechrau'r Rhyfel Chwyldroadol. Yn gynnar yn y rhyfel, cymerodd Morgan ran yn alldaith Benedict Arnold i Quebec ac yn ymgyrch Saratoga. Gwasanaethodd hefyd yn ymgyrch Philadelphia ond ymddiswyddodd o'r fyddin ym 1779.

Dychwelodd Morgan i'r fyddin ar ôl Brwydr Camden, a bu’n arweinydd ar Fyddin y Cyfandir a fu’n fuddugol ym Mrwydr Cowpens. Ar ôl y rhyfel, ymddeolodd Morgan o'r fyddin eto a datblygu ystâd fawr. Galwyd yn ôl i’r gwasanaeth milwrol ym 1794 i gynorthwyo atal y Gwrthryfel Wisgi, a bu’n ben ar garfan o'r fyddin a arhosodd yng Ngorllewin Pennsylvania ar ôl y gwrthryfel. Yn aelod o'r Blaid Ffederal, ymgyniogiodd Morgan fel ymgeisydd i Dŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau ddwywaith, gan ennill sedd yn y Tŷ ym 1796. Ymddeolodd o'r Gyngres ym 1799 a bu farw ym 1802.

Credir i Daniel Morgan gael ei eni ym mhentref New Hampton, New Jersey [2], yn Nhrefgordd Libanus (Lebanon Township). [3] Mewnfudwyr o Gymru oedd ei ddau dad-cu a’i ddwy fam-gu, a ymsefydlodd yn Pennsylvania. [4] Y pumed o saith plentyn James Morgan (1702–1782) ac Eleanor Lloyd (1706–1748) oedd Morgan. Ac yntau’n ddwy ar bymtheg oed, ymadawodd â’i gartref yn sgîl ymrafael â’i dad. Ar ôl gwneud mân orchwylion ym Mhennsylfania, symudodd i Ddyffryn Shenandoah. Ymgartrefodd o'r diwedd ar derfyn Virginia, yn yr ardal lle y mae bellach tref Winchester, Virginia.

Bu’n clirio tir, gweithio mewn melin lifio, ac yn gweithio fel cludwr. Ymhen dim ond blwyddyn yr oedd wedi arbed digon i brynu ei wedd o ychain ei hun. Roedd Morgan wedi gwasanaethu fel cludwr sifil yn ystod y Rhyfel yn erbyn y Ffrancwyr a'r Indiaid (1754-1763), gyda'i gefnder Daniel Boone. [5] Ar ôl dychwelyd o'r blaensymudiad ar Fort Duquesne (Pittsburgh) o dan orchymyn y Cadfridog Braddock, cafodd ei gosbi â phum cant namyn un (499) o chwipiadau (dedfryd angheuol oedd hon fel arfer) am daro ei uwch swyddog. [6] Yn y modd hwn, taniwyd ynddo gasineb tuag at Fyddin Loegr. Yna cyfarfu ag Abigail Curry; priodasant a chael dwy ferch, Nancy a Betsy.

Yn ddiweddarach, gwasanaethodd Morgan fel reifflwr yn y lluoedd taleithiol a gasglwyd ynghyd i amddiffyn yr aneddiadau gorllewinol rhag cyrchoedd yr Indiaid, yr hyn a gefnogid gan Ffrainc. Beth amser ar ôl y rhyfel, prynodd fferm rhwng Winchester a Battletown. Erbyn 1774, roedd mor llewyrchus nes ei fod yn berchen ar ddeg caethwas. [7] Y flwyddyn honno, gwasanaethodd yn Rhyfel Dunmore, gan gymryd rhan mewn cyrchoedd ar bentrefi’r llwyth Shawnee yng Ngwlad Ohio.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search